Taro Nodyn - Brenda Flanagan

Taro Nodyn - Brenda Flanagan

  • £20.00


Comisiynwyd gan ACCAC i gynorthwyo cyflwyno'r Cwricwlwm Gymreig yn yr ysgol.

Mae Taro Nodyn, sydd yn cynnwys llyfr a CD, yn sicr o gael croeso brwd gan athrawon Cyfnod Allweddol 1 a 2, boed yn arbenigwyr mewn cerddoriaeth neu beidio. Nid oes rhaid i athrawon fedru darllen neu ysgrifennu cerddoriaeth, neu fod yn medru canu unrhyw offeryn i ddefnyddio’r pecyn yma.

Mae pob un o’r 15 prosiect yn y gyfrol hon yn ymwneud â thestun gwahanol bydd yn ennyn ymateb y plant, gyda’r testun ei hun yn sbardun i ysgogi gweithgareddau cyfansoddi, perfformio ac hefyd gwerthuso.

Mae’r testun wedi’i gyflwyno mewn ffordd eglur a dealladwy gan danlinellu agweddau pwysig o’r meysydd hynny o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Adnodd cyffrous a fydd o gymorth ymarferol i athrawon.

English Version


We Also Recommend