Eric Jones & Arwel John - Hwyl a Hoe
Cyfle i ddianc i fyd gwahanol yw'r caneuon yn y gyfrol hon. Cewch ffoi mewn llong ofod i'r gwagle weithiau, teithio ar wib mewn trên neu hwylio'n hamddenol ar y môr.
Mae yma gyfle hefyd i gwrdd ag ambell gymeriad bach digon doniol ar y teithiau!
Gellir canu'r darnau fel caneuon unigol, wrth gwrs, ond yn gerddorol fe gynlluniwyd y cyfan fel cylch, ac felly gellir eu cyflwyno fel cyfanwaith hefyd.
Er mai ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 a 3 y bwriadwyd y caneuon hyn yn wreiddiol, mae hi'n gyfrol ar gyfer pawb sydd wrth eu bodd yn canu Caneuon Hwyl a Hoe!
- Dyma'r Gard
- Dyn y Tywydd
- Os Hoffech Deithio
- Mistar Dyn Tân
- Cân y Garddwr
- Yn Eisteddfod yr Urdd
- A Gaf Fi Sefyll Fory?
- Cragen Canŵ
- Y Refferî
- Pont y Glaw
- Y Gofodwr
- Hwyl a Hoe
The 12 songs for children in this book offer a chance to escape to another world. You can escape in a spaceship, travel in a train or sail away on the sea. Here you can meet some amusing characters. The songs can be sung as solos, of course, but the complete work was designed as a circle, and therefore can be performed as a complete work.
Although these songs are aimed at children in Key Stage 2 and 3, this book is for everyone who enjoys singing for rest and play!
This book is in Welsh only.